Grand Theft Auto

Mae Grand Theft Auto (GTA) yn gyfres o gemau antur arwaith fideo a grëwyd gan David Jones a Mike Dailly yn wreiddiol. Dyfeisiwyd teitlau ddiweddarach yn y gyfres gan y brodyr Dan a Sam Houser gyda Leslie Benzies ac Aaron Garbut. Datblygwyd y gyfres gan gwmni Rockstar North (DMA Design cynt), ac yn cael ei gyhoeddi gan eu chwaer gwmni Rockstar Games. Mae enw'r gyfres yn cyfeirio at y term a ddefnyddir yn yr Unol Daleithiau ar gyfer y trosedd o ladrata cerbydau modur. Mae'r rhan fwyaf o'r gemau yn y gyfres wedi eu gosod mewn lleoliadau ffuglennol, fel arfer, yn Liberty City, Vice City neu San Andreas, sydd wedi eu seilio ar Ddinas Efrog Newydd, Miami a thalaith California. Mae'r gêm gyntaf wedi ei leoli mewn tair dinas ffuglennol ond mae'r teitlau olynol yn tueddu defnyddio un lleoliad. Mae'r tasgau'r gemau yn llinynnol, lle fo cwblhau un dasg yn agor y nesaf. Mae'n bosib cael nifer o linynnau ar agor ar yr un pryd, gan fod rhai llinynnau'n gofyn i chwaraewyr aros am gyfarwyddiadau neu ddigwyddiadau pellach cyn symud ymlaen i'r dasg nesaf. Y tu allan i linynnau'r gêm, gall chwaraewyr crwydro'n rhydd trwy fyd y gêm. Wrth grwydro gall y chwaraewr cyflawni tasgau ochr, dewisol, sydd ddim yn rhan o brif lif y gêm. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar lawer o wahanol gymeriadau sydd yn ceisio codi drwy rengoedd yr isfyd troseddol, er bod eu cymhellion i wneud hynny, yn amrywio ym mhob gêm. Mae gwrth arwyr y gemau fel arfer yn gymeriadau sydd wedi bradychu'r prif gymeriad neu ei sefydliad, neu gymeriadau sy'n cael yr effaith fwyaf i atal y prif gymeriad rhag symud ymlaen. Mae nifer o enwogion o'r byd actio a channu wedi lleisio cymeriadau, gan gynnwys Ray Liotta, Burt Reynolds, Dennis Hopper, Samuel L. Jackson, James Woods, Debbie Harry, Phil Collins, Axl Rose a Peter Fonda. Cwmni datblygu gemau fideo o'r Alban DMA Design dechreuodd y gyfres ym 1997. Erbyn 2018 roedd gan y gyfres un ar ddeg gêm unigol a phedwar pecyn ehangu. Mae'r drydedd gêm gronolegol yn y gyfres, Grand Theft Auto III, yn cael ei ystyried yn deitl carreg filltir, gan ei fod yn dod â'r gyfres i leoliad 3D gan greu profiad chware llawer mwy realistig. Mae'r gyfres wedi derbyn clod mawr ac wedi cael llwyddiant masnachol. Cyhoeddwyd mwy na 250 miliwn o unedau, gan ei roi yn y bedwerydd safle o ran gwerthiant masnachfraint gêm fideo y tu ôl i gemau Mario a Pokémon cwmni Nintendo a Tetris. Yn 2006, ymddangosodd Grand Theaft Auto mewn rhestr o eiconau dylunio Prydain yn y Great British Design Quest a drefnwyd gan y BBC a'r Amgueddfa Ddylunio. Yn 2013, rhoddodd Y Telegraph Grand Theaft Auto ymhlith allforion mwyaf llwyddiannus Prydain . Fodd Bynnag, mae'r gyfres hefyd wedi bod yn ddadleuol am ei gynnwys a themâu oedolyn a'i natur dreisgar.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search